Arolygon Byw Llais Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe

Rhannu Arolygon Byw Llais Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe ar Facebook Rhannu Arolygon Byw Llais Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe Ar Twitter Rhannu Arolygon Byw Llais Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe Ar LinkedIn E-bost Arolygon Byw Llais Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe dolen
Merch yn ei harddegau yn siarad â chynghorydd ysgol

Mae gwybod beth sy'n gweithio'n dda yn y GIG a gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn golygu y gallwn rannu'r gwaith da hwnnw ledled Cymru. Weithiau, mae angen i bobl gwyno neu rannu adborth am brofiad gwael, mae cwyno pan aiff pethau o chwith hefyd yn bwerus o ran newid gwasanaethau er gwell, gallwn eich helpu gyda hynny hefyd.

Bydd eich adborth yn gwella gofal pawb ac yn newid bywydau llawer o bobl. Byddwn yn sicrhau bod eich barn a'ch adborth yn cael eu defnyddio i ddylanwadu ar y newid hwn.

Oherwydd ein bod ni’n gallu clywed am brofiadau iechyd a gofal cymdeithasol, byddwn ni’n gallu creu darlun cyfan o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio ar draws gwasanaethau. Felly bydd eich barn yn helpu gwasanaethau i ddod yn ddi-dor, yn ogystal â gwell.

Rhannwch eich profiadau trwy ein harolygon byw isod:

Mae gwybod beth sy'n gweithio'n dda yn y GIG a gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn golygu y gallwn rannu'r gwaith da hwnnw ledled Cymru. Weithiau, mae angen i bobl gwyno neu rannu adborth am brofiad gwael, mae cwyno pan aiff pethau o chwith hefyd yn bwerus o ran newid gwasanaethau er gwell, gallwn eich helpu gyda hynny hefyd.

Bydd eich adborth yn gwella gofal pawb ac yn newid bywydau llawer o bobl. Byddwn yn sicrhau bod eich barn a'ch adborth yn cael eu defnyddio i ddylanwadu ar y newid hwn.

Oherwydd ein bod ni’n gallu clywed am brofiadau iechyd a gofal cymdeithasol, byddwn ni’n gallu creu darlun cyfan o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio ar draws gwasanaethau. Felly bydd eich barn yn helpu gwasanaethau i ddod yn ddi-dor, yn ogystal â gwell.

Rhannwch eich profiadau trwy ein harolygon byw isod:

  • Arolwg Cleifion Meddygfa


    Hoffai Rhanbarth Llais Castell Nedd, Port Talbot & Abertawe, wybod am eich profiadau o gael mynediad at ofal trwy eich Practis Meddyg Teulu.

     

    Mae Llais yn gorff cenedlaethol, annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gall hyn fod yn unrhyw gymorth rydych eisoes yn ei dderbyn ac rydych eisiau gwneud sylwadau ar ansawdd y gwasanaethau hynny, neu gallai fod yn wasanaethau rydych yn teimlo eich bod eu hangen nad ydych wedi gallu cael mynediad iddynt.

     

    Mae pob ymateb yn ddienw, a chaiff y canlyniadau eu defnyddio fel tystiolaeth i annog gwella'r gwasanaethau. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw un yn gwybod pwy sydd wedi cwblhau'r arolwg hwn a bod eich hunaniaeth wedi'i diogelu.


    Os hoffech gael y cyhoeddiad hwn mewn fformat a/neu iaith arall, neu os hoffech siarad â rhywun am yr arolwg hwn, cysylltwch â ni ar 01639 683490 neu ymholiadau.cnptacabertawe@llaiscymru.org


    Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw a’i defnyddio gennym ni yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd – www.llaiscymru.org
     

    Take Survey
    Rhannu Arolwg Cleifion Meddygfa ar Facebook Rhannu Arolwg Cleifion Meddygfa Ar Twitter Rhannu Arolwg Cleifion Meddygfa Ar LinkedIn E-bost Arolwg Cleifion Meddygfa dolen
  • CLOSED: This survey has concluded.

    Ar gyfer beth mae'r arolwg hwn?

    Mae Llais yn cynrychioli llais pobl Cymru wrth lunio eu gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, rydym am ddeall eich profiadau o ddefnyddio'r gwasanaethau hyn wrth fyw gyda dementia. Rydym yn ceisio clywed gan gymaint o bobl â phosibl dros y misoedd nesaf.


    Sut fydd fy ngwybodaeth yn cael ei defnyddio?

    Mae ein staff yn edrych ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r pethau hynny nad ydynt yn gweithio'n dda o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd Llais yn chwilio am themâu cyffredin ac yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn gofyn iddynt am amser erbyn pryd y byddant yn dweud wrthym beth y maent yn bwriadu ei wneud ac a ydynt am gymryd unrhyw gamau. Byddwn hefyd yn rhannu ein canfyddiadau yn adroddiadau Llais.


    A fyddaf yn clywed unrhyw beth yn ôl?

    Unwaith y bydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymateb i ni, byddwn yn eich diweddaru trwy ein gwefan a'n tudalen Facebook. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i staff yn y lleoedd y daethom i siarad â chi am y prosiect hwn, fel y gallant eich diweddaru chi hefyd.

    Gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy weithio gyda'n gilydd. Rydym yn gwerthfawrogi eich amser, eich syniadau a'ch straeon.

    Rhannu Profiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol pobl sy'n byw gyda dementia ar Facebook Rhannu Profiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol pobl sy'n byw gyda dementia Ar Twitter Rhannu Profiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol pobl sy'n byw gyda dementia Ar LinkedIn E-bost Profiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol pobl sy'n byw gyda dementia dolen
  • CLOSED: This survey has concluded.

    Profiad gofalwyr yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe - 2024 

    Mae LLAIS yma i gynrychioli pobl Cymru wrth lunio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae LLAIS yn gorff annibynnol, cenedlaethol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi mwy o rym a dylanwad i bobl Cymru lunio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn gweithio gyda chyrff iechyd a gofal cymdeithasol, llunwyr polisi ac eraill fel eu bod yn clywed eich llais ac yn defnyddio eich adborth i helpu i lunio gwasanaethau iechyd a gofal i ddiwallu anghenion pawb. 

    Os ydych yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot neu Abertawe a'ch bod yn gofalu am anwylyd, hoffai LLAIS glywed eich barn.  

    Ein nodau yw: 

    Gwrando ar yr hyn yr hoffech ei ddweud wrthym am fod yn ofalwr.  

    Ceisio deall beth sy'n gweithio'n dda a pha feysydd y gellid eu gwella. 

    Defnyddio’r hyn a ddywedwch wrthym i weithio gydag eraill i wella’ch profiad.  

    Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi rannu eich profiad fel claf. Ewch i'n gwefan: https://www.llaiscymru.org/yn-eich-ardal/castell-nedd-port-talbot-ac-abertawe Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol. Efallai y byddwn yn defnyddio sylwadau ac adborth cleifion yn ein hadroddiadau terfynol; fodd bynnag, ni fyddwn yn nodi'r unigolion sy'n rhannu adborth. Mae'r hyn a ddywedwch wrthym yn gyfrinachol. 

    This form is also available in English.

    Rhannu Profiad gofalwyr yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe - 2024 ar Facebook Rhannu Profiad gofalwyr yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe - 2024 Ar Twitter Rhannu Profiad gofalwyr yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe - 2024 Ar LinkedIn E-bost Profiad gofalwyr yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe - 2024 dolen