Profiad gofalwyr yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe - 2024
Profiad gofalwyr yn ardal Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe - 2024
Mae LLAIS yma i gynrychioli pobl Cymru wrth lunio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae LLAIS yn gorff annibynnol, cenedlaethol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi mwy o rym a dylanwad i bobl Cymru lunio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn gweithio gyda chyrff iechyd a gofal cymdeithasol, llunwyr polisi ac eraill fel eu bod yn clywed eich llais ac yn defnyddio eich adborth i helpu i lunio gwasanaethau iechyd a gofal i ddiwallu anghenion pawb.
Os ydych yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot neu Abertawe a'ch bod yn gofalu am anwylyd, hoffai LLAIS glywed eich barn.
Ein nodau yw:
Gwrando ar yr hyn yr hoffech ei ddweud wrthym am fod yn ofalwr.
Ceisio deall beth sy'n gweithio'n dda a pha feysydd y gellid eu gwella.
Defnyddio’r hyn a ddywedwch wrthym i weithio gydag eraill i wella’ch profiad.
Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi rannu eich profiad fel claf. Ewch i'n gwefan: https://www.llaiscymru.org/yn-eich-ardal/castell-nedd-port-talbot-ac-abertawe Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol. Efallai y byddwn yn defnyddio sylwadau ac adborth cleifion yn ein hadroddiadau terfynol; fodd bynnag, ni fyddwn yn nodi'r unigolion sy'n rhannu adborth. Mae'r hyn a ddywedwch wrthym yn gyfrinachol.