Arolwg Cleifion Meddygfa
Arolwg Cleifion Meddygfa
Hoffai Rhanbarth Llais Castell Nedd, Port Talbot & Abertawe, wybod am eich profiadau o gael mynediad at ofal trwy eich Practis Meddyg Teulu.
Mae Llais yn gorff cenedlaethol, annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gall hyn fod yn unrhyw gymorth rydych eisoes yn ei dderbyn ac rydych eisiau gwneud sylwadau ar ansawdd y gwasanaethau hynny, neu gallai fod yn wasanaethau rydych yn teimlo eich bod eu hangen nad ydych wedi gallu cael mynediad iddynt.
Mae pob ymateb yn ddienw, a chaiff y canlyniadau eu defnyddio fel tystiolaeth i annog gwella'r gwasanaethau. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw un yn gwybod pwy sydd wedi cwblhau'r arolwg hwn a bod eich hunaniaeth wedi'i diogelu.
Os hoffech gael y cyhoeddiad hwn mewn fformat a/neu iaith arall, neu os hoffech siarad â rhywun am yr arolwg hwn, cysylltwch â ni ar 01639 683490 neu ymholiadau.cnptacabertawe@llaiscymru.org.
Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw a’i defnyddio gennym ni yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd – www.llaiscymru.org
0% Ateb