Profiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol pobl sy'n byw gyda dementia
Ar gyfer beth mae'r arolwg hwn?
Mae Llais yn cynrychioli llais pobl Cymru wrth lunio eu gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, rydym am ddeall eich profiadau o ddefnyddio'r gwasanaethau hyn wrth fyw gyda dementia. Rydym yn ceisio clywed gan gymaint o bobl â phosibl dros y misoedd nesaf.
Sut fydd fy ngwybodaeth yn cael ei defnyddio?
Mae ein staff yn edrych ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r pethau hynny nad ydynt yn gweithio'n dda o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd Llais yn chwilio am themâu cyffredin ac yn trosglwyddo'r wybodaeth honno i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn gofyn iddynt am amser erbyn pryd y byddant yn dweud wrthym beth y maent yn bwriadu ei wneud ac a ydynt am gymryd unrhyw gamau. Byddwn hefyd yn rhannu ein canfyddiadau yn adroddiadau Llais.
A fyddaf yn clywed unrhyw beth yn ôl?
Unwaith y bydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymateb i ni, byddwn yn eich diweddaru trwy ein gwefan a'n tudalen Facebook. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i staff yn y lleoedd y daethom i siarad â chi am y prosiect hwn, fel y gallant eich diweddaru chi hefyd.
Gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy weithio gyda'n gilydd. Rydym yn gwerthfawrogi eich amser, eich syniadau a'ch straeon.