Cau Meddygfa Talacharn
Rhannu Cau Meddygfa Talacharn ar Facebook
Rhannu Cau Meddygfa Talacharn Ar Twitter
Rhannu Cau Meddygfa Talacharn Ar LinkedIn
E-bost Cau Meddygfa Talacharn dolen
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael cais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin.
Dyma’r prif resymau dros y cais:
- Mae'r Feddygfa wedi wynebu problemau mawr o ran cynnal ei weithlu craidd ac nid yw wedi gallu darparu sesiynau meddygon teulu ym Meddygfa Cangen Talacharn ers mis Ebrill 2020.
- Er mwyn diogelu'r ddarpariaeth o wasanaethau meddygol cyffredinol, mae Partneriaid o Feddygon Teulu Meddygfa Coach and Horses yn Sanclêr wedi gwneud y penderfyniad anodd i wneud cais i gau Meddygfa Cangen Talacharn. Bydd hyn yn caniatáu iddynt ganoli eu staff a’u gwasanaethau, a fydd yn ei dro yn cefnogi cynaliadwyedd y Feddygfa i’r dyfodol.
- Mae heriau ledled y DU o ran recriwtio a chadw meddygon teulu.
Yn unol â pholisi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi ei Broses Adolygu Meddygfa Cangen ar waith, a fydd yn cynnwys y canlynol:
- Rhannu gwybodaeth â chleifion a rhanddeiliaid ehangach i ofyn am eu barn;
- Ymgysylltu â Llais, sef y corff statudol sy’n cynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd;
- Cynnal sesiwn galw-heibio cyhoeddus ar gyfer cleifion Meddygfa Cangen Talacharn ar dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023, rhwng 2pm a 7pm yn Neuadd Goffa Talacharn, Stryd Clifton, Talacharn SA33 4QG
Bydd yr adborth a gaiff y bwrdd iechyd gan gleifion a rhanddeiliaid yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniad terfynol ar y cais, a hynny mewn cyfarfod cyhoeddus o’r bwrdd iechyd.