Cau Meddygfa Talacharn

Rhannu Cau Meddygfa Talacharn ar Facebook Rhannu Cau Meddygfa Talacharn Ar Twitter Rhannu Cau Meddygfa Talacharn Ar LinkedIn E-bost Cau Meddygfa Talacharn dolen

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael cais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin.

Dyma’r prif resymau dros y cais:

  • Mae'r Feddygfa wedi wynebu problemau mawr o ran cynnal ei weithlu craidd ac nid yw wedi gallu darparu sesiynau meddygon teulu ym Meddygfa Cangen Talacharn ers mis Ebrill 2020.
  • Er mwyn diogelu'r ddarpariaeth o wasanaethau meddygol cyffredinol, mae Partneriaid o Feddygon Teulu Meddygfa Coach and Horses yn Sanclêr wedi gwneud y penderfyniad anodd i wneud cais i gau Meddygfa Cangen Talacharn. Bydd hyn yn caniatáu iddynt ganoli eu staff a’u gwasanaethau, a fydd yn ei dro yn cefnogi cynaliadwyedd y Feddygfa i’r dyfodol.
  • Mae heriau ledled y DU o ran recriwtio a chadw meddygon teulu.

Yn unol â pholisi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi ei Broses Adolygu Meddygfa Cangen ar waith, a fydd yn cynnwys y canlynol:

  • Rhannu gwybodaeth â chleifion a rhanddeiliaid ehangach i ofyn am eu barn;
  • Ymgysylltu â Llais, sef y corff statudol sy’n cynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd;
  • Cynnal sesiwn galw-heibio cyhoeddus ar gyfer cleifion Meddygfa Cangen Talacharn ar dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023, rhwng 2pm a 7pm yn Neuadd Goffa Talacharn, Stryd Clifton, Talacharn SA33 4QG

Bydd yr adborth a gaiff y bwrdd iechyd gan gleifion a rhanddeiliaid yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniad terfynol ar y cais, a hynny mewn cyfarfod cyhoeddus o’r bwrdd iechyd.

  • Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni sut y bydd y newid hwn yn effeithio arnoch chi. Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth.

    Byddwn yn rhannu eich barn â’r GIG, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru ac eraill i helpu i roi gwybod iddynt am yr hyn y mae pobl a chymunedau lleol yn ei ddweud wrthym.

    Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw a’i defnyddio gennym ni yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd – www.llaiswales.org. Byddem yn eich annog i ddarllen yr Hysbysiad Preifatrwydd, ochr yn ochr â’r wybodaeth sydd yn yr arolwg hwn, cyn i chi ddychwelyd eich adborth atom.

    Mae'r ffurflen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

    Cymerwch yr arolwg