Cael babi

Rhannu Cael babi ar Facebook Rhannu Cael babi Ar Twitter Rhannu Cael babi Ar LinkedIn E-bost Cael babi dolen

Mae Llais yn gorff annibynnol gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Rydym yn cynrychioli eich barn ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gan wneud yn siŵr ein bod yn gwrando, gan weithio gyda chyrff y GIG, Awdurdodau Lleol Cymru, ac eraill i lunio a gwella gwasanaethau i bawb.

Rydym yma i helpu a darparu cyngor i unrhyw un sydd ag adborth ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac i'ch cefnogi i wneud cwynion os aiff pethau o chwith.

Hoffai Llais glywed am y gofal a gawsoch gan wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) drwy gydol eich beichiogrwydd ac ar ôl hynny:

• y gofal a gawsoch;

• sut oeddech chi'n teimlo eich bod wedi cael eich trin; a’ch

• profiad cyffredinol o ddefnyddio'r gwasanaethau

Drwy rannu eich profiad byddwch yn ein helpu i ddeall:

• beth aeth yn dda

• yr hyn nad aeth yn dda

Byddwn yn defnyddio’r hyn a ddywedwch wrthym er mwyn llywio’r adolygiad gwasanaethau mamolaeth annibynnol sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd ac i gyflwyno sylwadau i’r Bwrdd Iechyd i ysgogi dysgu a gwelliant.

Bydd faint o amser y bydd yn ei gymryd i chi gwblhau'r arolwg hwn yn dibynnu ar faint rydych am ei ddweud wrthym.

Bydd yr arolwg hwn ar agor tan 30/09/2024

Mae'r ymchwil hwn yn ddienw, felly os cwblhewch yr arolwg, ni fydd neb yn gwybod. Nid ydym yn cymryd unrhyw fanylion gennych a all eich adnabod. Bydd angen i ni sicrhau os ydych yn ateb yr arolwg ar ran rhywun arall eu bod wedi rhoi eu caniatâd i chi wneud hynny.

Os oes angen cymorth arnoch i’ch helpu i lenwi’r ffurflen hon, cysylltwch â: maternityexperience@llaiscymru.org

Eisiau dweud mwy wrthym?

Os hoffech ddweud mwy wrthym, neu os yw'n well gennych siarad â ni na chwblhau'r arolwg hwn, byddwn hefyd yn cynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws. Mae lle ar ddiwedd yr arolwg i adael manylion cyswllt os hoffech chi wneud hyn.

  • Take Survey