Ein Heffaith - Awst 2024

Rhannu Ein Heffaith - Awst 2024 ar Facebook Rhannu Ein Heffaith - Awst 2024 Ar Twitter Rhannu Ein Heffaith - Awst 2024 Ar LinkedIn E-bost Ein Heffaith - Awst 2024 dolen

Rhifyn Awst 2024

Neges gan ein Prif Weithredwr

Croeso i rifyn cyntaf EFFAITH.

Fel eich llais ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n dweud wrthych chi beth sy’n digwydd gyda’r hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthym ni. Ym mis Gorffennaf byddwn yn gwneud hynny, gan rannu effaith y gwaith rydym yn ei wneud i glywed eich lleisiau, eu cynrychioli i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac eirioli ar eich rhan chi a'ch teuluoedd.

Byddwn yn tynnu sylw at effaith ein gwaith ar draws Llais, trwy ddull “Llais lleol” a ddefnyddir gan ein timau Llais rhanbarthol, y gwaith rydym yn ei wneud i ddeall yn iawn beth sy'n digwydd ar sail Cymru gyfan, a mentrau ein timau yn lansio i edrych yn fanylach ar faterion sy'n dod i'r amlwg sy'n digwydd yn lleol. Byddaf hefyd yn dweud mwy wrthych am yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud yn fy rôl fel Prif Weithredwr ac yn rhannu gwybodaeth am y cyfarfodydd a’r grwpiau rydym yn rhan ohonynt yn rheolaidd yn Llais i ysgogi gwelliannau. Cadwch mewn cysylltiad a daliwch ati i rannu eich straeon gyda ni.

Dymuniadau gorau,
Alyson Thomas
Prif Weithredwr - Llais

Ein heffaith: Ebrill – Mehefin 2024

Sut rydym yn gweithio

Yn Llais mae gennym dair swyddogaeth graidd fel eich llais annibynnol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol:

  • I ymgysylltu â chi am eich gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cynrychioli eich barn i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn seiliedig ar y mewnwelediadau rydym yn eu datblygu o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud wrthym. Mae ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i ymateb i ddweud wrthym beth maent yn ei wneud gyda'ch adborth.
  • Darparu eiriolaeth cwynion annibynnol i’r rhai sydd angen cymorth gyda’r system gwynion iechyd a gofal cymdeithasol.

Rydym hefyd yn cynrychioli eich barn ar fyrddau a phwyllgorau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill lle bo modd, fel Comisiwn Bevan, i rannu adnoddau a syniadau.

Mae dull lleol Llais yn golygu cyfnodau dwys o ymgysylltu mewn ardaloedd llai yng Nghymru dros gyfnod penodol. Efallai y byddwch yn gweld eich tîm Llais mewn grwp cymunedol lleol, yr orsaf drenau, yr archfarchnad leol neu swyddfa bost. Ein nod yw bod lle rydych chi, i glywed beth sydd bwysicaf i chi. Edrychwch allan am eich tîm Llais lleol yn eich cymunedau. Siaradwch â ni.

Gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.

Ein Effaith Gorffennaf

Dyma beth mae ein timau ledled Cymru wedi bod yn brysur yn ei wneud yn ystod y mis diwethaf:

Dyma rai o'r effeithiau mwyaf rydyn ni wedi'u cael y mis hwn

Effaith #1 Prosiect Dementia – Dull cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau

Buom yn siarad â dros 200 o bobl am y gofal dementia y maent yn ei dderbyn gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

Gwnaethom gynrychiolaeth i Awdurdodau Lleol Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe yn ogystal â Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i: weithio gyda'n gilydd i greu neu ddatblygu ymhellach wasanaethau a ariennir ar y cyd sy'n darparu cyngor a chymorth i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd.

Edrychwch ar siwrne Dementia Frank ac Anne

Clywsom fod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg yn llunio strategaeth dementia yn unol â Safonau Llwybr Gofal Dementia Cymru Gyfan. Fel rhan o'r gwaith hwn, byddant yn edrych ar ba wasanaethau sydd ar hyn o bryd yn cefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia yn yr ardal i gyfeirio pobl yn well a gweithio allan unrhyw fylchau mewn gwasanaethau.

Roeddent yn rhannu eu hymrwymiad i ddarparu’r cyngor cywir ar yr amser cywir ar y cyd i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Dywedasant wrthym fod Gwasanaeth Cymorth Dementia wedi'i sefydlu drwy Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg gyda chymorth pum sefydliad allweddol ar draws Abertawe a Chastell Nedd a Phort Talbot. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia ynghyd â'u teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor ar gael cymorth yn y cartref, addasiadau ac atgyweiriadau tai, seibiant, cefnogaeth ac arweiniad. Dywedwyd wrthym y byddai'r gwaith hwn yn parhau i gael ei ddatblygu ymhellach.

Yn ogystal ag eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, rydym bellach hefyd yn eistedd ar eu Bwrdd Rhaglen Dementia ac Anabledd Dysgu gan ddod â llais pobl i’r bwrdd tra bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u datblygu. Diolch i bawb a siaradodd â ni am eu profiadau o fyw gyda dementia. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Effaith #2 Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth yn Ysbyty Singleton

Mae Llais wedi bod yn gwrando ar fenywod, pobl sy’n geni a theuluoedd a gafodd ofal gan wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Bae Abertawe. Rhannwyd yr hyn a ddywedodd pobl wrthym â’r Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Mamolaeth, a gofynnwyd iddynt ddangos i ni sut y gwnaeth y safbwyntiau hyn lywio eu gwaith.

Tra bod y gwaith hwn yn parhau, dyma enghreifftiau o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni:

  • Cytundeb y bydd grwp ymgynghorol yn cynnwys pobl â phrofiad o fyw, cynrychiolwyr o'r Bartneriaeth Lleisiau Mamolaeth, Llais a grwpiau trydydd sector eraill yn cael ei ffurfio i gynghori'r Panel ar yr ymagwedd at eu gwaith.
  • Bydd gwasanaethau cymorth Profedigaeth, iechyd meddwl a lles ar gael i'r rhai a allai fod eu hangen.
  • Bydd gwybodaeth am yr adolygiad yn cael ei gwneud yn fwy gweladwy ar wefan y Bwrdd Iechyd ac yn dilyn hynny bydd gwefan ar wahân yn cael ei lansio ar gyfer yr adolygiad ei hun.
  • We are working closely with families and the Health Board to move the review process ymlaen fel y gall gwasanaethau wella i bobl.

Mae 3,200 o fabanod yn cael eu geni bob blwyddyn yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydyn ni'n gwybod efallai bod llawer ohonoch chi â straeon i'w rhannu.

Os hoffech chi ddweud eich dweud am eich profiadau o wasanaethau mamolaeth Bae Abertawe, gallwch gysylltu â ni yn ein swyddfa yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe drwy e-bost: profiadmamolaeth@llaiscymru.org neu drwy ffonio 01639 683490.

Effaith #3 Eiriolaeth: Amseroedd Aros ar gyfer Llawfeddygaeth Orthopedig

Buom yn siarad â dyn 84 oed a oedd wedi bod yn aros am lawdriniaeth orthopedig ers dechrau 2019. Yn ystod y cyfnod hwnnw dirywiodd ei allu i fynd o gwmpas, gyda hyd yn oed un cam yn ei adael mewn llawer o boen. Disgrifiodd ei ansawdd bywyd fel un nad oedd yn bodoli. Roedd y boen mor ddrwg fel nad oedd wedi cael noson dda o gwsg ers dros bedair blynedd.

Ei gwestiwn i Llais oedd “a ydw i wedi cael fy nghondemnio i fyw blynyddoedd olaf fy mywyd mewn poen, heb unrhyw siawns o gael llawdriniaeth – ydw i’n mynd i farw yn aros am lawdriniaeth?”

Roedd wedi dioddef o ganser yn ystod y cyfnod hwn a chafodd ei drin yn gyflym ac yn llwyddiannus. Fodd bynnag, gan fod y driniaeth canser wedi para mwy na 21 diwrnod roedd y canllawiau'n awgrymu y dylid ei dynnu oddi ar unrhyw restr aros a dechrau eto pan gytunodd meddygon ei fod yn ffit. Byddai hyn wedi golygu iddo dreulio blynyddoedd yn hwy yn aros am lawdriniaeth orthopedig.

Ysgrifennon ni at y Bwrdd Iechyd yn gofyn iddynt ei roi yn ôl ar y rhestr, yn y lle y dylai fod wedi bod. Cytunodd y Bwrdd Iechyd, ac mae'r claf bellach wedi cael cynnig llawdriniaeth yn fuan

Mae wrth ei fodd ac yn edrych ymlaen at fwynhau'r dyfodol yn ddi-boen.

Ffyrdd eraill rydyn ni wedi cael effaith y mis hwn

Lleisiau Powys – Themâu o’r gymuned Roma, Sipsiwn a Theithwyr

Yn Llais, fel eich llais ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, rydym am glywed mwy gan gymunedau y mae eu lleisiau yn aml yn cael eu tangynrychioli.

Ymwelodd ein tîm Powys â’r safle Teithwyr lleol ym mis Ebrill fel rhan o’u hymgysylltiad lleol Llais yn Aberhonddu i glywed am ei profiadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Yr hyn a glywsom:

  • Mae yn anodd cofrestru am ddeintydd gerllaw.
  • Mae yn anodd mynd drwodd at eich meddyg teulu.
  • Mae cyrraedd gwasanaethau heb gar yn anodd.
  • Mae apwyntiadau ysbyty dros y ffin yn newid llawer ac mae yn waith caled ceisio cysylltu i drefnu.
  • Mae arosiadau hir am weithdrefnau diagnostig.
  • Mae arosiadau hir am lawdriniaeth cataract.

Beth wnaethom ni:

Ar ôl i’n tîm ym Mhowys edrych ar yr adborth o bob rhan o’u Llais lleol Aberhonddu, gwnaethant gynrychioliadau i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan gynnwys:

  • Trafod adborth gyda Phractis Meddygol Aberhonddu am anhawster cysylltu â'r Practis
  • Cysylltu â'r Bwrdd Iechyd a'r practis i drefnu ymweliad dilynol
  • Y Bwrdd Iechyd yn rhannu eich adborth am apwyntiadau ysbyty gyda byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd perthnasol yn Lloegr
  • Y Bwrdd Iechyd yn defnyddio eich adborth ar apwyntiadau yn eu gwaith ar “Aros yn Iach” ar gyfer pobl sy’n aros am driniaeth.

Bydd tîm Powys yn olrhain cynnydd y cynrychiolaethau hyn drwy weddill y flwyddyn ac yn adrodd yn ôl ar yr hyn y mae'r Bwrdd Iechyd wedi'i wneud i roi eich barn ar waith.

Diolch i'r rhai a rannodd eich barn. Daliwch i siarad â ni er mwyn i ni allu gwneud gwahaniaeth.

Cryfhau lleisiau gofalwyr di-dâl

Mae Llais yn parhau i weithio gyda gofalwyr di-dâl fel rhan o'n blaenoriaeth strategol o gydweithio'n well.

Mae dau o’n timau rhanbarthol, Powys a Gorllewin Cymru, wedi gweithio gyda gofalwyr fel eu blaenoriaethau rhanbarthol ac ym mis Gorffennaf cymerodd Llais ran yng Nghynhadledd Ymwybyddiaeth o Ofalwyr 2024.

Mae Carer Aware yn brosiect ar y cyd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Gofalwyr Cymru i weithio gyda gofalwyr di-dâl, gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd proffesiynol i roi llais gwirioneddol i ofalwyr di-dâl mewn penderfyniadau a gwasanaethau sy’n effeithio ar y bobl y maent yn gofalu amdanynt a hwy eu hunain.

Daeth y gynhadledd â 4 blynedd o brosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr ynghyd, gan edrych ar wersi a ddysgwyd ac arfer da o Gymru a thu hwnt i un lle.

Yn unol â’n nod i ysgogi sgwrs genedlaethol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol, roedd Llais yn rhan o banel arbenigol a oedd yn trafod ‘Dyfodol y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl’ ynghyd ag Addysg Iechyd yng Nghymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Swyddfa'r Prif Swyddog Nyrsio a gofalwyr di-dâl.

Gallwch ddarllen am effaith y prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr yma

Cynulliad Gofalwyr Di-dâl

Gan adeiladu ar ein perthynas â Voices Adfocad, a ddatblygwyd gan, ar gyfer a chyda gofalwyr di-dâl yng Nghymru, bydd Llais yn cefnogi’r Cynulliad Gofalwyr Di-dâl yng Nghaerdydd ym mis Hydref ynghyd â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro a Chyngor Trydydd Sector Caerdydd.

Mae’r digwyddiad yn canolbwyntio ar annog pobl i gydweithio i greu gwasanaethau a ffyrdd newydd o wneud pethau, yn lleol ac ar draws y wlad. Mae’r ymdrech hon yn unol â’n nod gan Llais i ‘wthio am wasanaethau sy’n diwallu anghenion pawb’.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru i fynychu: https://www.voices.wales/cardiff-and-vale-unpaid-carers-assembly/

Llunio'r ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud trwy'r hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym

Rhwng Ebrill a Mehefin, bu eich barn a’ch profiadau yn gymorth i lunio’r ymgynghoriadau cenedlaethol hyn drwy ein cynrychiolaeth:

  • Newidiadau arfaethedig i broses Gweithio i Wella
  • Dogfennau canllaw arfer da yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer rheolyddion: Canllawiau ar ddefnyddio Canlyniadau a Dderbynnir mewn Addasrwydd i Ymarfer a chanllawiau ar Wneud Rheolau
  • Strategaeth Ddrafft Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed 2024-2034
  • Datblygu Cod Ymarfer Niwrogyfeirio
  • Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Ddrafft 2024-2034
  • Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) drafft
  • Cynllun Addysg a Hyfforddiant (ETP) Addysg Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar gyfer 2025/26
  • Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Drafft (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) 2024.

Mamogramau Blynyddol

Dywedodd menywod a oedd wedi cael triniaeth am ganser y fron eu bod yn aros yn hir am eu profion sgrinio'r fron blynyddol. Fe wnaethom ofyn i Fwrdd Iechyd Bae Abertawe beth oedd yr amser aros a sut i fynd i'r afael ag ef.

Dywedodd y Bwrdd Iechyd wrthym fod ôl-groniad o bedwar mis ar gyfer delweddu a dywedodd y byddai'n cynnal clinigau ychwanegol i leihau hyn. Dywedodd y Bwrdd Iechyd ei fod yn cyfarfod yn wythnosol i gadw llygad ar y sefyllfa ac y byddai'n parhau i wneud hynny hyd nes y bydd targedau amseroedd aros yn cael eu cyrraedd.

Llais yn arwyddo'r Siarter Cynhwysiant Digidol

Beth yw cynhwysiant digidol?

Cynhwysiant digidol yw cysylltiad a chynhwysiant yr unigolyn yn ei gymuned trwy feddu ar y sgiliau, y cyfle a’r mynediad sydd eu hangen i wneud defnydd o dechnoleg yn eu bywydau bob dydd.

Beth mae Llais yn ei wneud amdano?

Rydym am i chi gael profiadau da o ddefnyddio technoleg i gael mynediad at iechyd a gofal, tra'n parchu bod rhai pobl yn gwneud dewis gweithredol i beidio â gwneud hynny.

Er mwyn adeiladu ar waith ein Cynllun Strategol yn eich helpu i ddefnyddio technolegau mewn ffyrdd sy'n gweithio i chi, llofnodwyd y Siarter Cynhwysiant Digidol yn ddiweddar, gan ymuno â Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru. Mae’r gynghrair yn dod â sefydliadau ledled Cymru at ei gilydd i weithio gyda’i gilydd i wneud Cymru’n genedl fwy cynhwysol yn ddigidol.

Ym mis Gorffennaf, ymunodd Sara Woollatt o Cymunedau Digidol Cymru yn Cwmpas â Alyson Thomas, ein Prif Weithredwr a'r Athro Medwin Hughes, ein Cadeirydd Bwrdd, i lofnodi'r siarter.

Pam mae o bwys?

Gwyddom fod y rhai sydd mewn perygl o allgáu digidol yn tueddu i fod:

  • oedolion hyn
  • pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor
  • y rhai sydd â chyflawniadau addysgol is
  • ar incwm is
  • byw mewn ardaloedd gwledig
  • Cymraeg eu hiaith neu'r rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf
  • ynysig yn gymdeithasol
  • digartref

Dyma hefyd y bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan heriau i'w hiechyd a'u gofal.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022/23 yn dweud wrthym nad yw 7% o oedolion Cymru – tua 170,000 o bobl – ar-lein. Gyda’r twf mewn rhaglenni fel Ap y GIG, a’r defnydd o wasanaethau ar-lein i gefnogi pobl i gael mynediad at iechyd a gofal, mae’n bwysig inni wneud yn siwr bod gwasanaethau’n diwallu anghenion pawb yng Nghymru, a bod y rhai sydd angen cymorth i wneud hynny yn gwybod lle gallant gael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Cadwch lygad allan fis nesaf lle byddwn yn clywed mwy gan dîm Cymunedau Digidol Cymru am bwysigrwydd cynhwysiant digidol a lle mae cydweithio yn helpu pawb sydd angen defnyddio technoleg yn eu gwasanaethau iechyd a gofal.

Bord Gron ar fynediad i Feddygon Teulu gyda'r Comisiynydd Pobl Hyn

Ym mis Gorffennaf, aethom i ddigwyddiad bord gron a gadeiriwyd gan y Comisiynydd Pobl Hyn, Heléna Herklots CBE i drafod argymhellion y Comisiynydd. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Gwella mynediad pobl hyn i wasanaethau drwy edrych ar y rhwystrau a gwella cyfathrebu.
  • Cefnogi pobl hyn i fynd at y Meddyg Teulu a dilyn cyngor clinigol.
  • Sicrhau bod gan bobl hyn y sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt i gael mynediad i bractisau meddygon teulu.
  • Adeiladu ymddiriedaeth.
  • Rydym yn cydnabod bod pwysau ar y sector cyhoeddus yn effeithio ar wasanaethau, a pha mor gyson yw’r rhain ar gyfer pobl hyn.

Cytunwyd i gydweithio â sefydliadau allweddol eraill yno i:

  • Gwella parhad gofal mewn gwasanaethau meddygon teulu i gleifion hyn.
  • Gwella cyfathrebu â phobl hyn i'w helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu hymarfer. Mae hyn yn cynnwys eu hannog i gael mynediad at ofal iechyd, eu helpu i ddeall newidiadau i wasanaethau a rolau gweithwyr proffesiynol y gallant feithrin perthnasoedd ymddiriedus â nhw.
  • Gwaith ar ofal ataliol gyda meddygon teulu a chymunedau.
  • Sicrhau bod rhaglenni presennol wedi'u cynllunio gan gadw tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant mewn golwg
  • Rhannu arfer da o adroddiadau.
  • Cryfhau'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol fel bod pobl yn cael y cymorth cywir ar ôl cael cyngor meddygol.
  • Codi anawsterau gyda thrafnidiaeth feddygol gydag Ysgrifenyddion y Cabinet dros Iechyd a Thrafnidiaeth.
  • Defnyddio ein rhwydweithiau ein hunain i wneud pobl hyn yn ymwybodol o ganllaw gwybodaeth y Comisiynydd ar gael mynediad at bractisau meddygon teulu.

Byddwn yn ymuno â thîm y Comisiynydd ar gyfer digwyddiad dilynol ym mis Medi i edrych ar gynnydd a byddwn yn rhoi gwybod i chi am y camau nesaf.

A oes gennych chi, neu berson hyn yr ydych yn ei gefnogi, brofiad o gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol yr ydych am ei rannu â ni? Cymerwch eiliad i ddweud eich dweud yma

Cyfarfod Llais o 120 yn rhoi sicrwydd i gleifion Meddygfa Hanmer

Cyfarfod Llais o 120 yn rhoi sicrwydd i gleifion Meddygfa Hanmer Ym mis Mehefin, helpodd Llais gyda chyfarfod cyhoeddus yn yr Hanmer Arms i'r grŵp gweithredu cleifion rannu eu barn am ganolfan iechyd newydd. Mae Dr Kieran Redman o Feddygfa Hanmer wedi bod yn arwain ymgyrch am ganolfan iechyd newydd yn yr ardal y mae'n dadlau y bydd yn diwallu anghenion y cleifion.

Roedd y prosiect wedi dod i stop dros anghytuno ynghylch maint y datblygiad gyda'r Bwrdd Iechyd yn honni ei fod yn rhy fawr ar gyfer y rhestr cleifion.

Mynychodd Simon Jones, cyfarwyddwr cyswllt Gofal Sylfaenol (Dwyrain) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y cyfarfod ochr yn ochr â 120 o bobl a rhoddodd sicrwydd i'r grŵp bod y Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i ddatblygu cynlluniau i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol.

Mae Llais yn parhau i weithio'n agos gyda'r practis a'r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod lleisiau'r cyhoedd yn cael eu clywed. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Pride Cymru

Yng Nghaerdydd, buom yn ymgysylltu â 2,000 o bobl dros y penwythnos drwy sgyrsiau agored a phreifat ochr yn ochr â chardiau post preifat lle gallai pobl dynnu sylw at eu pryderon. Daeth rhai themâu allweddol i’r amlwg o’r sgyrsiau hyn:

1. Ffrwythlondeb: Mynediad cyfyngedig i IVF ar gyfer cyplau o'r un rhyw.
2. Iechyd Meddwl: Gwasanaethau annigonol i bobl ifanc.
3. Iechyd Menywod: Amseroedd aros hir ar gyfer diagnosis o gyflyrau fel Syndrom Ofari Polycystig, menopos ac endometriosis.

Roedd ein sylwadau cerdyn post yn dangos galwad am:

  • Buddsoddiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • Amseroedd aros byrrach
  • Gwell mynediad at ddeintyddion
  • Gwell gwasanaethau hunaniaeth rhywedd
  • Ymateb ambiwlans cyflymach
  • Cefnogaeth i unigolion niwroamrywiol.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am gynnydd y cynrychiolaethau a wnaethom o’r digwyddiad yn rhifynnau’r dyfodol.

Eiriolaeth Gorllewin Cymru yn brwydro dros ofal deintyddol teg

Roedd un o’n heiriolwyr yng Ngorllewin Cymru yn cefnogi cleient a oedd yn anhapus gyda’i ofal deintyddol. Ar ôl cael ei gyfeirio at y deintydd gan 111 GIG Cymru, tynnwyd dant a gosodwyd plât ffug. Roedd wedi'i ffitio a'i halinio'n wael, gan ei adael â dannedd cam.

Dim ond ad-daliad rhannol a gynigiodd y deintydd. Gyda chefnogaeth eiriolaeth cwynion Llais, derbyniodd ymddiheuriad gan y deintydd, esboniad llawn o'i ofal ac ad-daliad o £203.00 am ei driniaeth GIG.

Daliwch i edrych allan yn rhifynnau’r dyfodol am ein hymchwil diweddar ar ddeintyddiaeth a sut mae’r profiad hwn yn cyd-fynd â’r darlun ehangach.

A oes angen cymorth arnoch i godi pryder am eich gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol? I siarad â’n tîm o eiriolwyr cwynion hyfforddedig a phroffesiynol, cysylltwch â’ch swyddfa Llais leol.

Gwent: Lleisiau pobl ifanc

Later this year, we’ll be looking to develop our work with children and young people. Our Gwent team got a head start on this recently, engaging with 138 young people across different education settings.

Bydd eu lleisiau’n bwydo i mewn i arolwg arfaethedig tîm Gwent ar gyfer pontio o blant i oedolion, sydd wedi’i gynllunio i atal pobl ifanc rhag syrthio drwy’r bylchau rhwng gwasanaethau. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y darn hwn o waith yn rhifynnau'r dyfodol.

Wedi meddwl am Wirfoddoli?

Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad mawr i’n gwaith o glywed lleisiau pobl Cymru.

I ddarganfod mwy am wirfoddoli gyda Llais, ewch i’n gwefan, neu ffoniwch ni ar 02920 235 558.

Dyma rai o'r partneriaid y gwnaethom rwydweithiau â nhw y mis hwn

Dilynwch ni i ledaenu'r gair i'ch ffrindiau a'ch teulu, fel y gallwn glywed pob llais yng Nghymru.