Neidio i'r cynnwys

Pontio o wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol plant i oedolion - Hawdd ei Ddeall

Cafodd y ddogfen hon ei hysgrifennu gan Llais. Mae’n fersiwn hawdd ei ddeall o ‘Arolwg Llais am symud o wasanaethau plant i wasanaethau

oedolion’.

Sut i ddefnyddio’r ddogfen hon

Arolwg hawdd ei ddeall yw hwn. Ond efallai bydd dal angen i chi gael cymorth i’w ddarllen. Gofynnwch i rywun rydych chi’n ei adnabod eich helpu chi.

Lle mae’r ddogfen yn dweud ni, mae hyn yn golygu Llais.

0% Ateb

I bwy mae’r arolwg hwn



Mae’r arolwg hwn i chi os ydych chi’n:

- defnyddio gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol

- symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.

Weithiau, rydyn ni’n defnyddio’ gair pontio i ddisgrifio’r hyn.


Nod yr arolwg hwn yw:

Dysgu am eich profiad o symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.

* Dweud wrth y gwasanaethau am y ffordd orau o’ch cefnogi chi.


Ynghylch yr arolwg



Mae cwestiynau yn yr arolwg hwn amdanoch chi a’ch profiadau.

Does neb yn mynd i wybod pwy sydd wedi ateb yr arolwg.

Byddwn ni’n cadw’ch gwybodaeth chi’n breifat, a fyddwn ni ddim yn mynd i’w rhoi hi i neb.

Byddwn ni’n dilyn cyfreithiau i gadw’ch gwybodaeth chi’n ddiogel. I ddysgu mwy am sut rydyn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth, ewch i’n gwefan:
www.llaiscymru.org.

Mae’r ffurflen hon ar gael yn Saesneg hefyd.

Gallwch chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Byddwn ni’n cymryd yr un faint o amser i roi ateb i chi yn Gymraeg neu Saesneg.

Cysylltwch â ni os ydych chi am gael yr arolwg hwn mewn fformat neu iaith arall.

1.  

Dywedwch wrthon ni pa opsiwn sy’n eich disgrifio chi orau. Rydw i’n llenwi’r arolwg hwn achos:


2.  


Ble rydych yn byw? 

Os ydych chi’n ateb yr arolwg hwn ar ran rhywun, ym mha ardal maen nhw’n byw?

Uchafswm 255 cymeriadau

0/255

5.  

A wnaeth rhywun ddweud wrthych chi beth fyddai’n digwydd pan oeddech chi’n symud i wasanaethau oedolion?


7.  

Oeddech chi’n gwybod pwy i siarad â nhw pe bai unrhyw gwestiynau gyda chi?


9.  

Oeddech chi’n rhan o’r broses o wneud dewisiadau am eich gofal a’ch triniaeth?


11.  

Oeddech chi’n teimlo bod pobl yn gwrando arnoch chi?


13.  

Oedd pobl yn deall sut roeddech chi’n teimlo am bethau?


15.  

Gawsoch chi’r cymorth sydd ei angen arnoch chi?


17.  

Oes unrhyw wasanaethau y gwnaethoch chi eu defnyddio pan oeddech chi’n blentyn dydych chi ddim yn gallu eu defnyddio fel oedolyn?


18.  

Sut roeddech chi’n teimlo am symud i wasanaethau oedolion?


Diolch am gwblhau'r arolwg hwn. Gallwch ddychwelyd y ffurflen hon atom yn yr amlen radbost a ddarparwyd.

Caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei chadw a'i defnyddio gennym yn unol â'n datganiad preifatrwydd – www.llaiswales.org.

 Corff cenedlaethol, annibynnol yw Llais, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i roi mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.