Neidio i'r cynnwys

Arolwg Llawdriniaeth Cynlluniedig i'r Clun a'r Pen-glin

Ydych chi ar restr aros am lawdriniaeth clun neu ben-glin? Sut mae'n effeithio ar eich iechyd a'ch lles? A yw'n effeithio ar eich iechyd meddwl a'ch ffordd o fyw? Os yw'r aros yn effeithio arnoch chi, hoffem glywed eich stori.

Mae Llais yn gorff annibynnol, cenedlaethol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Hoffai Llais – Rhanbarth Gwent wybod am yr amseroedd aros y gallech eu hwynebu am lawdriniaeth ddewisol ar gyfer eich pen-glin a/neu glun. 

Mae'r holl ymatebion yn ddienw, a bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio fel tystiolaeth i annog gwelliant yn y gwasanaethau hyn yng Ngwent.

This form is also available in English.