AR GAU: Mae'r arolwg hwn wedi dod i ben.
Arolwg pontio o wasanaethau plant i oedolion
YDYCH CHI'N BERSON IFANC (O DAN 18 OED) AC YN DEFNYDDIO GWASANAETHAU IECHYD NEU OFAL CYMDEITHASOL?
OS FELLY, HOFFEM GLYWED GENNYCH
Nid yw tyfu o fod yn blentyn i fod yn oedolyn byth yn hawdd. Os ydych chi'n defnyddio gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol efallai y byddwch yn cael eich symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Rhowch wybod i ni am eich profiad o'r newid hwn a byddwn yn gallu rhoi gwybod i'r gwasanaethau sut mae angen i'r daith hon weithio i chi.
Byddwn yn sicrhau y caiff eich llais ei glywed
Mae pob ymateb yn ddienw!