Neidio i'r cynnwys

Arolwg ar ryddhau o'r ysbyty yn ôl i ofal cymunedol

Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar ac angen gofal yn y gymuned, cwblhewch ein harolwg byr. 

Dywedwch wrthym os ydych wedi: 

  • Profi oedi wrth aros i gael eich rhyddhau o'r ysbyty.
  • Profi oedi tra roedd gofal cymunedol yn cael ei roi ar waith i chi. 

Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i amlygu eich profiadau i'r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol er mwyn helpu i wella pethau.  

Os yw'n well gennych, gallwch gwblhau'r arolwg hwn ar-lein trwy sganio'r cod QR isod: 

Pwy ydym ni? 

Mae Llais yn gorff annibynnol, cenedlaethol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Beth ydym ni'n mynd i'w wneud â'ch adborth?

Mae eich llais yn bwysig i ni! Mae'r holl ymatebion yn ddienw, a bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio fel tystiolaeth i annog gwella'r gwasanaethau hyn i bobl ledled Gwent. 

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw a’i defnyddio gennym yn unol â’n datganiad preifatrwydd – www.llaiscymru.org.

Fformatau amgen:

Os hoffech gael y cyhoeddiad hwn mewn fformat a/neu iaith arall, neu os hoffech siarad â rhywun am yr arolwg hwn, cysylltwch â ni ar 01633 838516.

 

0% Ateb

AMDANOCH CHI

1.  
Dewiswch yr opsiwn sy'n eich disgrifio chi orau:
Os ydych chi'n cwblhau'r arolwg hwn ar ran y person a brofodd oedi wrth gael ei ryddhau i'r gymuned, atebwch y cwestiynau ar ei ran.
2.  
Ym mha fwrdeistref ydych chi'n byw?
3.  
Eich grŵp oedran: